Yn 2019, cofiodd Undeb Bedyddwyr Cymru ganrif ers marwolaeth un o’n cenhadon gorau – Timothy Richard. Pa ffordd well i ddathlu cyfraniad Richard a’i waith cenhadol arloesol na thrwy gefnogi gwaith y BMS i drawsnewid bywydau plant sy’n ffoaduriaid o Syria yn Libanus?
Helpwch mwy o blant i ad-ennill eu dyfodol a oedd wedi ei golli drwy ariannu canolfan addysg ar gyfer ffoaduriaid o Syria yn Lebanon.
Mae miliwn a hanner o ffoaduriaid Syriaidd yn Lebanon, ac nid yw’r system addysg yn gallu ymdopi â’r nifer enfawr o blant o Syria sydd angen lle mewn ysgol. Pwrpas yr apêl gan Undeb Bedyddwyr Cymru, mewn partneriaeth â’r BMS, yw i helpu ehangu’r gwaith hwn ymhellach, i gyrraedd mwy o blant drwy gynnig y rhodd syml o addysg – rhodd sy’n gallu newid bywydau.
Ffôdd Donia i Lebanon gyda’i dwy merch ifanc, dwy a phump oed. “Roedd e’n tref wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd a gwelodd y mynyddoedd hynny lawer o ryfela. Roedd yn le peryglus iawn i fod,” meddai Donia.
Pan drôdd ei merch hynaf, Ali, yn chwech, ceisiodd Donia ddod o hyd i ysgol iddi. Ond doedd neb yn fodlon ei chymryd. Ar ôl ffoi o’u cartref, eu ffrindiau a’u gwlad, roedd Donia’n gallu gweld dyfodol ei merch yn llithro o’u gafael.
Dwy flynedd yn ôl, cynnigwyd lle i Ali mewn canolfan addysg a ariennir gan y BMS, ac mae hi’n ffynnu. “Doedd gan Ali ddim ffrindiau na theulu yn Lebanon a cafodd ei brifo gan beth a welodd yn Syria. Nawr, mae ganddi ffrindiau yn yr ysgol ac mae’n derbyn addysg dda. Mae hi hyd yn oed yn rhoi gwersi i’w chwaer fach am beth mae hi’n ei ddysgu.”
Mae plant fel Ali wedi bod drwy mwy o drawma nag y gall y rhan fwyaf ohonom ei ddychmygu. Ac maen nhw’n haeddu cyfle. Rydych yn credu hyn gymaint â ni. Os gwelwch yn dda rhowch yn hael i Apêl Timothy Richard i blant Syriaidd yn Lebanon. Gallwch amddiffyn dyfodol mwy o blant. Gallwch adfer gobaith.
Cafodd Ali ei brifo gan beth a welodd yn Syria. Nawr, mae ganddi ffrindiau yn yr ysgol ac mae’n derbyn addysg dda.
Gyda’ch help chi, gallwn ehangu’r gwaith yn bellach, cyrraedd mwy o blant â’r rhodd syml o addysg – rhodd sy’n gallu trawsnewid bywydau. Gallwn ni, fel Undeb Bedyddwyr Cymru, helpu Ali a’i chyd-ddisgyblion drwy ariannu athrawon, rent dosbarthiadau, trafnidiaeth am ddim, byrbrydiau iach a chostau cynnal a chadw rhedeg y ganolfan.
Dyma fideo byr yn cyflwyno hanes Timothy Richard a’r apêl ar gyfer plant ffoaduriaid Syriaidd yn Lebanon.
Gallwch gynnal gwasanaeth Timothy Richard gan ddefnyddio’r adnodd hwn, a gwneud casgliad ar gyfer yr apêl i blant ffoaduriaid o Syria.
Cyflwyniad PowerPoint am Apêl Timothy Richard yn cynnwys nodiadau.
Syniadau ynghylch codi arian a chefnogi’r apêl.
© 2021 BMS World Mission - The Baptist Missionary Society: registered in England and Wales as a charity (no. 1174364) and a company limited by guarantee (no. 10849689)
This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.
You have added a resource to your cart
View Cart