Apêl Timothy Richard

Mae ffoaduriaid o Syria sy’n blant wedi colli popeth

Gallwch chi eu helpu i fynd yn ôl i’r ysgol

A RHOI GOBAITH AM Y DYFODOL IDDYNT

Yn 2019, cofiodd Undeb Bedyddwyr Cymru ganrif ers marwolaeth un o’n cenhadon gorau – Timothy Richard. Pa ffordd well i ddathlu cyfraniad Richard a’i waith cenhadol arloesol na thrwy gefnogi gwaith y BMS i drawsnewid bywydau plant sy’n ffoaduriaid o Syria yn Libanus?

Helpwch mwy o blant i ad-ennill eu dyfodol a oedd wedi ei golli drwy ariannu canolfan addysg ar gyfer ffoaduriaid o Syria yn Lebanon.

Mae miliwn a hanner o ffoaduriaid Syriaidd yn Lebanonac nid yw’r system addysg yn gallu ymdopi â’r nifer enfawr o blant o Syria sydd angen lle mewn ysgol. Pwrpas yr apêl gan Undeb Bedyddwyr Cymru, mewn partneriaeth â’r BMS, yw i helpu ehangu’r gwaith hwn ymhellach, i gyrraedd mwy o blant drwy gynnig y rhodd syml o addysg – rhodd sy’n gallu newid bywydau.

Ffôdd Donia i Lebanon gyda’i dwy merch ifanc, dwy a phump oed. “Roedd e’n tref wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd a gwelodd y mynyddoedd hynny lawer o ryfela. Roedd yn le peryglus iawn i fod,” meddai Donia.

Pan drôdd ei merch hynaf, Ali, yn chwech, ceisiodd Donia ddod o hyd i ysgol iddi. Ond doedd neb yn fodlon ei chymryd. Ar ôl ffoi o’u cartref, eu ffrindiau a’u gwlad, roedd Donia’n gallu gweld dyfodol ei merch yn llithro o’u gafael.

A schoolgirl looks up from her desk, eager to learn
Mae plant ffoaduriaid o Syria yn erfyn am gael bod mewn dosbarthiadau fel hyn. Gallwch chi eu helpu.

GOBAITH I’R DYFODOL

Dwy flynedd yn ôl, cynnigwyd lle i Ali mewn canolfan addysg a ariennir gan y BMS, ac mae hi’n ffynnu. “Doedd gan Ali ddim ffrindiau na theulu yn Lebanon a cafodd ei brifo gan beth a welodd yn Syria. Nawr, mae ganddi ffrindiau yn yr ysgol ac mae’n derbyn addysg dda. Mae hi hyd yn oed yn rhoi gwersi i’w chwaer fach am beth mae hi’n ei ddysgu.”

Mae plant fel Ali wedi bod drwy mwy o drawma nag y gall y rhan fwyaf ohonom ei ddychmygu. Ac maen nhw’n haeddu cyfle. Rydych yn credu hyn gymaint â ni. Os gwelwch yn dda rhowch yn hael i Apêl Timothy Richard i blant Syriaidd yn Lebanon. Gallwch amddiffyn dyfodol mwy o blant. Gallwch adfer gobaith.

A mother and three children smiling in the doorway of their accommodation
Byddwch yn un o’r Cristnogion sy’n helpu teuluoedd fel yr un yma.

Cafodd Ali ei brifo gan beth a welodd yn Syria. Nawr, mae ganddi ffrindiau yn yr ysgol ac mae’n derbyn addysg dda.

HELPWCH I DRAWSFFURFIO BYWYDAU HEDDIW

Gyda’ch help chi, gallwn ehangu’r gwaith yn bellach, cyrraedd mwy o blant â’r rhodd syml o addysg – rhodd sy’n gallu trawsnewid bywydau. Gallwn ni, fel Undeb Bedyddwyr Cymru, helpu Ali a’i chyd-ddisgyblion drwy ariannu athrawon, rent dosbarthiadau, trafnidiaeth am ddim, byrbrydiau iach a chostau cynnal a chadw rhedeg y ganolfan.

Adnoddau