Rhannwch wên
Mae Cynllun Pen-blwydd BMS yn cynnig ffordd wych i annog pobl yn eich eglwys i gefnogi cenhadaeth fyd-eang wrth ddathlu eu pen-blwydd. Mae’n gynllun sy’n rhoi cyfle i ddiolchgarwch a llawenydd adeg pen-blwydd gael ei fynegi mewn ffordd ymarferol i wella ansawdd bywyd i eraill trwy roi cyfraniad at BMS World Mission. Mae’n codi dros £300,000 pob blwyddyn sydd yn bennaf yn cefnogi gwaith iechyd BMS a’i phartneriaid ar hyd y byd.
Os ydych chi am ymuno â’r Cynllun Pen-blwydd, holwch os yw’n cael ei redeg yn eich eglwys a gofynnwch i’r Ysgrifennydd cynllun Pen-blwydd am fanylion. Os nad yw eich eglwys yn rhedeg y cynllun beth am i chi ei gychwyn gan helpu eraill i rannu gwên?